Y mae rhinwedd gras y nefoedd

1,2,3;  1,2,9;  1,3,4,(5,6,(8));  1,3,4,6,7.
(Achwiliadwy olud Grist)
Y mae rhinwedd gras y nefoedd,
  O drag'wyddol faith barhâd;
Nid oes darfod byth ar effaith,
  Perffaith haeddiant dwyfol waed:
    Ac er golchi,
  Dysglaer fydd yr afon byth.

Heddyw yr agorwyd ffynon,
  Ddysglaer fel y grisial clir:
Y mae'n llanw ac yn llifo
  Tros wastadedd Salem dir:
    Bro a bryniau, &c,
  A gaiff brofi
      rhîn y dŵr.

Minnau_a dd'of i'r ffynnon loyw,
  Darddodd allan ar y bryn,
Ac mi olcha'm henaid euog,
  Ganwaith yn y dyfroedd hyn;
    Myrdd o feiau,
  Dafla'i lawr
      yn ngrym y dw'r.

Iachawdwriaeth râd ei hunan,
  Yw fy mhle o flaen y nef,
A ffarwel am dana'i fythol,
  Oni chaf ei haeddiant ef;
    Iesu ei hunan,
  Oll o flaen y fainc i mi.

Ganddo mae afonydd mawrion
  O ffyddlondeb ac o hêdd;
Er fy mwyn dyoddefodd angeu,
  A gorweddodd yn y bêdd;
    Fel y gallwn
  Fyn'd i mewn i'r ddinas bur.

Ffordd nid oes o waredigaeth,
  Ond agorwyd ar y pren,
Llwybr pechaduriaid euog,
  Mewn i byrth y nefoedd wen;
    Dyma'r gefnffordd,
  Gwna i mi ei cherdded tra fwyf byw.

O na chawn ddifyru nyddiau,
  Llwythog dan dy ddwyfol groes!
A phob meddwl wedi ei glymu,
  Wrth dy berson ddydd a nos;
    Byw bob mynyd,
  Mewn tangnefedd pur a hedd.

Rho i mi gerdded dros rai oriau,
  Yn siriol ronyn bach ymlaen,
Na'd im' ofni gwynt na themhestl,
  Bryn nac afon, dwfr na thân;
    Ond dan ganu,
  Gwna_i mi fyn'd i ben fy nhaith.

O dirwynwch oriau 'fynu,
  A gadewch im' wel'd y dydd
Pan y torir fy nghadwynau,
  Y caf rodio'n berffaith rydd;
    Ysbryd caethwas
  Gwedi troi yn ysbryd hedd.
haeddiant dwyfol :: haeddiant Crist a'i
Dafla'i lawr yn ngrym :: Daflai lawr i rym
nadl :: ple

William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Mariners (alaw Italaidd)
Peniel (alaw Gymreig)

gwelir:
  Arnat Iesu boed fy meddwl
  Croesau trymion sydd yn felus
  Dacw'r ffynnon i'w dymuno
  Dyma Geidwad i'r colledig
  Ffordd nid oes o waredigaeth
  Heddyw'r ffynnon a agorwyd
  Iesu nid oes terfyn arnat
  Mae fy meiau fel mynyddau
  Nid oes pleser nid oes tegan
  O na chawn ddifyru nyddiau

(The unsearchable wealth of Christ)
The virtue of the grace of heaven is,
  Of an eternal, vast duration;
There is never any dying away of the effect
  Of the perfect merit of divine blood:
    And for washing,
  Shining will be the river forever.

Today is opened a well,
  Shining like the clear crystal:
It is flooding and flowing
  Across the plains of Salem land:
    Vale and hills,
  Shall get to taste
      the virtue of the water.

I shall come to the bright well,
  Which issued out of the hill,
And I will wash my guilty soul,
  A hundred times in these waters;
    A myriad of faults,
  I shall throw down
      in the force of the water.

Free salvation itself,
  Is my plea before heaven,
And farewell about me forever,
  If only I get his merit;
    Jesus himself,
  All before the throne for me.

With him there are great rivers
  Of faithfulness and of peace;
For my sake he suffered death,
  And lay in the grave;
    That I might
  Go inside into the pure city.

There is no way of deliverance,
  But there was opened on the tree,
A path for guilty sinners,
  Into the portals of the bright heavens;
    Here is the highway,
  Make me walk it as long as I live.

O that I might enjoy days,
  Burdened under thy divine cross!
And every thought knotted,
  To thy person day and night;
    To live every minute,
  In pure tranquility and peace.

Grant me to walk for those hours,
  Cheerfully a small grain forwards,
Do not let me fear wind or tempest,
  Hill or river, water or fire;
    But through singing,
  Make me do to my journey's end.

O ye hours, wind up,
  And let me see the day
When my chains are to be broken,
  And I will get to roam perfectly free;
    The spirit of a captive slave
  Having turned into a spirit of peace.
merit of divine :: merit of Christ and his
I shall throw down in the force :: It would throw down to the force
::

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~